PENODI CADEIRYDD I FWRDD IECHYD PRIFYSGOL BAE ABERTAWE

 

Crynodeb:

 

Mae'r Bwrdd yn chwarae rhan allweddol wrth lunio strategaeth, gweledigaeth, pwrpas a diwylliant Bwrdd Iechyd. Mae’n dwyn y Bwrdd Iechyd i gyfrif am ddarparu gwasanaethau, perfformiad, cyflawni strategaeth a gwerth am arian, a datblygu a gweithredu strategol.

 

Mae hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod risgiau i’r Bwrdd Iechyd, staff a’r cyhoedd yn cael eu rheoli a’u lliniaru’n effeithiol. Dan arweiniad Cadeirydd annibynnol ac yn cynnwys cymysgedd o Aelodau Gweithredol ac Annibynnol, mae gan y Bwrdd gyfrifoldeb ar y cyd am berfformiad y Bwrdd Iechyd. Bydd y Cadeirydd yn atebol i'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am berfformiad y Bwrdd a'i lywodraethu effeithiol, cynnal gwerthoedd y GIG, a hybu hyder y cyhoedd a phartneriaid.

 

Cefndir:

 

Crëwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Morgannwg gynt ar Ebrill 1 2019, ar ôl i’r cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr drosglwyddo o PABM i Fwrdd Iechyd Prifysgol newydd Cwm Taf Morgannwg.

 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cwmpasu poblogaeth o tua 390,000 o bobl, mae ganddo gyllideb flynyddol o dros £1 biliwn ac mae'n cyflogi tua 12,500 o staff, gyda 70% ohonynt yn ymwneud â gofal cleifion uniongyrchol. Mae’r Bwrdd yn darparu gofal integredig i gleifion ac yn darparu gwasanaethau acíwt, canolraddol, iechyd meddwl, cymunedol a gofal sylfaenol i bobl yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Yn ogystal, mae’r Bwrdd yn darparu ystod eang o wasanaethau rhanbarthol ac isranbarthol gan gynnwys llawdriniaeth gardiaidd a llosgiadau, llawfeddygaeth blastig i gleifion yn ne-orllewin Lloegr, iechyd meddwl fforensig ar gyfer De Cymru a gwasanaethau anabledd dysgu o Abertawe i Gaerdydd yn ogystal ag ar gyfer ardaloedd Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

 

Darperir Gwasanaethau Gofal Sylfaenol trwy feddygon teulu, optegwyr, fferyllwyr cymunedol a deintyddion sydd i gyd yn gweithredu fel contractwyr annibynnol. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn rheoli Gwasanaethau Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau a Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ar gyfer carchar Abertawe.

 

Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe dri ysbyty acíwt sy'n darparu ystod o wasanaethau:
− Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ym Mhort Talbot;
− Ysbyty Singleton yn Abertawe; ac
− Ysbyty Treforys yn Abertawe.

 

Mae yna hefyd nifer o ysbytai cymunedol llai a chanolfannau adnoddau gofal sylfaenol sy'n darparu gwasanaethau clinigol pwysig i breswylwyr y tu allan i'r pedwar prif leoliad ysbyty acíwt.

Mae gan y Bwrdd strategaeth sefydliadol uchelgeisiol, sy’n cyd-fynd yn agos â’r dirwedd bolisi a deddfwriaethol flaengar yng Nghymru, gan gynnwys newid i atal a gofal sylfaenol, integreiddio agos â gwasanaethau cymdeithasol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi datblygu partneriaethau cryf gyda byrddau iechyd cyfagos, awdurdodau lleol, y 3ydd sector ac eraill. Mae'r rhain yn cynnwys Prifysgol Abertawe ac yn ymdrechu i ddatblygu diwylliant sy'n cael ei yrru gan ymchwil ac addysg gyda hi, gan weithio mewn partneriaeth agos â Phrifysgol Abertawe, ei Choleg Meddygaeth, y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, a'r Sefydliad Gwyddor Bywyd.

 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Lleol Bae Abertawe ar hyn o bryd yn cymryd rhan mewn prosiect cyffrous gyda Phrifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Hywel Dda o'r enw Cydweithrediad Rhanbarthol dros Iechyd (ARCH). Dyma iechyd a gwyddoniaeth yn cydweithio, i wella iechyd, cyfoeth a lles pobl de-orllewin Cymru.

 

Crynodeb Cyhoeddusrwydd:

 

Dosbarthodd Llywodraeth Cymru fanylion y penodiad drwy restrau rhanddeiliaid a ddelir gan yr Uned Cyrff Cyhoeddus (PBU) a phostio'r swydd wag ar wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru.

 

Hyrwyddodd y Bwrdd y penodiad trwy ei wefan fwrdd, llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â chylchrediad ymhlith y grŵp cyfeirio rhanddeiliaid a grwpiau allweddol eraill sy'n canolbwyntio ar gydraddoldeb ac amrywiaeth. Hefyd cafodd ei hyrwyddo'n fewnol drwy Rwydwaith BAME y Bwrdd Iechyd i annog ceisiadau gan y grwpiau hyn.

 

Hyrwyddwyd y swydd wag gan y sianeli Cyfryngau Cymdeithasol canlynol a'u hysbysebu trwy'r cyfryngau a restrir isod:

 

Twitter – Llywodraeth Cymru - Aildrydar gan y Bwrdd

Facebook – Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

LinkedIn - Conffederasiwn y GIG a’r Bwrdd

 

Hysbysebion Taledig:

 

Swyddi Cymru

Rhwydwaith Diversity Jobsite

Golwg 360

 

Crynodeb o'r broses recriwtio:

 

Hysbysebwyd ar wefan Llywodraeth Cymru  rhwng 24 Ionawr a 14 Chwefror 2024.

 

Sift – 21 Chwefror 2024

Sesiwn Rhanddeiliaid – 7 ac 8 Mawrth 2024.  Roedd aelodau'r sesiwn i randdeiliaid yn gynrychiolwyr o'r Bwrdd Iechyd, eu partneriaid a'u rhanddeiliaid a Llywodraeth Cymru.  Gofynnwyd i'r ymgeiswyr gyflwyno eu hunain gan roi trosolwg byr o pam y gwnaethant wneud gais am y rôl. (5 munud). Dilynwyd hyn gan drafodaeth agored 30 munud gydag aelodau'r panel.

 

Cyfweliadau – 29 Chwefror 2024

 

Aelodaeth panel cynghori asesu:

 

Judith Paget, Cyfarwyddwr Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyffredinol, Llywodraeth Cymru a Phrif Weithredwr GIG Cymru (Cadeirydd)
Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio
Dr Rosetta Plumber,
Uwch Aelod Annibynnol y Panel
Steve Probert, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol a Busnes y Llywodraeth

Peter Homa, Aelod Annibynnol y panel

 

 

Derbyniwyd cyfanswm 7 cais ar gyfer y rôl newydd. 5 Gwryw a 2 fenyw a 1 anabl.

Argymhellwyd 4 ymgeisydd i gyfweliad er i 1 dynnu eu cais yn ôl cyn cynnal y cyfweliadau. 

Ystyriodd y Panel Cynghori Asesu bod 1  ymgeisydd yn Benodedig.

Hoff ymgeisydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaeth

Cymdeithasol – Jan Williams

 

Gwrthdaro Buddiannau

 

Dim

 

Gweithgaredd Gwleidyddol

 

Dim